Croeso i adran Cymru safle recriwtio Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant 2008.

I ateb yn Saesneg, llwythwch y pecyn ymgeisio i lawr a’i ddarllen, mae’n cynnwys y Ffurflen Gais, y Llyfryn Cyfarwyddyd Hanfodol a’r Llyfryn Gwybodaeth Gyffredinol. Mae Consortiwm Hyfforddiant Cymru’n recriwtio ar gyfer Gogledd Cymru a Dyfed-Powys (Nid yw De Cymru na Gwent yn recriwtio eleni). Pan fo’n bosibl, rydym yn annog ymgeiswyr i ymgeisio ar-lein.

I ateb yn Gymraeg, llwythwch y ffurflen gais i lawr a’i llenwi ac wedyn ei dychwelyd drwy’r post i Consortiwm Hyfforddiant Cymru 4 - 7 The Broadway, Pontypridd CF37 1BA.

Os byddwch yn dewis peidio â chyflwyno eich cais ar-lein, argraffwch fersiwn PDF y ffurflen gais i’w llenwi a’i phostio i Consortiwm Hyfforddiant Cymru 4 - 7 The Broadway, Pontypridd CF37 1BA.

Os na allwch chi gael gafael ar gyfrifiadur a hoffech chi i ni anfon pecyn ymgeisio atoch chi, ffoniwch 01443 494337.

Diolch am ddangos diddordeb yn y cynllun Swyddogion Prawf dan Hyfforddiant yng Nghymru.

Llwytho ffurflen gais Gymraeg i lawr (View this page in English)